SL(5)220 – Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) 2018 (Saesneg yn unig)
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Pysgota Anghyfreithlon, Heb ei Gofnodi a Heb ei Reoleiddio) 2009 (Saesneg yn unig) a Rheoliadau Pysgota Môr (Pwyntiau ar gyfer Meistri Cychod Pysgota) 2014 (Saesneg yn unig). Maent yn gweithredu darpariaethau Erthygl 38 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1005/2008, sy'n sefydlu system y Gymuned i atal, rhwystro a dileu achosion o bysgota anghyfreithlon, heb ei adrodd a heb ei rheoleiddio.
Y weithdrefn
Penderfyniad negyddol, cyfansawdd.
Materion technegol: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg
Mae'r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, sy'n golygu bod y Rheoliadau hyn: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU.
Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau yn datgan, oherwydd natur gyfansawdd y Rheoliadau, nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r Rheoliadau gael eu gwneud yn Gymraeg a Saesneg.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad
Mae cyfraith yr UE yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau orfodi rhai gweithgareddau pysgota môr sydd wedi'u gwahardd, fel mewnforio pysgod a ddaliwyd gan long pysgota o drydedd wlad nad yw'n cydweithredu. Ym mis Mawrth 2014, am y tro cyntaf, cyhoeddodd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd restr o wledydd nad ydynt wedi cydweithio â'r UE mewn perthynas â physgota môr anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio. Y gwledydd ar y rhestr yw Belize, Teyrnas Cambodia a Gweriniaeth Gini.
Nodwyd nad oedd y gwledydd hyn yn cydweithredu ym mis Mawrth 2014. Nid yw'n amlwg pam ei bod wedi cymryd tan fis Mai 2018 i wneud y Rheoliadau hyn i orfodi gweithgareddau sydd wedi'u gwahardd yn erbyn y gwledydd hyn nad ydynt yn cydweithredu.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad
Mae cymhwyso'r Rheoliadau hyn yn dibynnu ar ddiffiniadau fel "ardaloedd o fewn terfynau'r môr tiriogaethol cyfagos i Loegr" a "rhan o'r môr o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain sydd i'w drin fel cyfagos i Gymru" ac ati.
Er mwyn gweld beth yw union ystyr yr ardaloedd hyn, mae angen edrych ar sawl darn o ddeddfwriaeth a phlotio nifer fawr o gyfesurynnau.
Rydym yn argymell y dylid cynnwys mapiau yn y Memoranda Esboniadol yn y dyfodol, er mwyn rhoi crynodeb sydyn o'r ardaloedd môr perthnasol.
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad
Cododd rhai o'r newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn o'r pwyntiau adrodd technegol y cododd y Pwyllgor hwn ym mis Ionawr 2015. Er ein bod yn croesawu'r newidiadau hynny sy'n cael eu gwneud (mewn perthynas â Chymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac, yn rhannol, yr Alban), rydym yn nodi ei bod wedi cymryd bron tair blynedd a hanner i wneud y newidiadau.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu ac yn gorfodi rhwymedigaethau'r UE mewn perthynas â physgota môr, ac felly bydd y Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.
Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod "rheoli a chefnogi pysgodfeydd" yn faes polisi sy'n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau cymal 15 o dan Fil yr UE (Ymadael). Felly, mae'r gyfraith sy'n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE sy'n cael ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb y llywodraeth i'r pwyntiau craffu technegol a rhinweddau sy'n codi yn yr adroddiad hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
1 Mehefin 2018